WilliamJONESJONES - Bu farw William Hughes Jones, Plas-yn-ddol gynt, yn Ysbyty Gwynedd ar 29 Mawrth 2008 yn 100 oed. Priod annwyl y diweddar Edna, tad tyner John, Gwyneth, Megan a Heulwen a thad yng nghyfraith arbennig Beryl, Ned, Deri a Gareth. Taid hoffus Dewi, Manon, Rhys, Meleri, Owain, Gwion, Gwen, Sian, Cathrin a Cynon. Hen daid hoffus Gwion Rhys, Gerwyn, Owain, Rhodri, Rhys Gethin, Gruffydd, Llyr, Taliesyn, Malen, Mela ac Elliw. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel yr Annibynwyr, Y Bala am 1.30 o'r gloch dydd Iau, 3 Ebrill 2008 ac yna i'r teulu yn unig ym mynwent Llanycil. Blodau gan y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion at Ganolfan Cysgod y Coleg a chartrefi preswyl Bryn Llywelyn a Bryn Blodau drwy law trefnwyr yr angladd, A. G. Evans a'r brodyr, 01678 520660.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William